Dyma ychydig o’r lluniau eraill a dynnwyd yn ystod yr ymweliad â Hafod Lom a’r Adfa.
Ychwanegiad at yr erthygl yn rhifyn 324 o Barddas, t. 10
Dyma ychydig o’r lluniau eraill a dynnwyd yn ystod yr ymweliad â Hafod Lom a’r Adfa.
Y lôn i’r Hafod Lom
O’r golwg mewn pant isel wrth odre Mynydd Clogau mae’r hen dyddyn. Gamp i neb gael hyd iddo heb gymorth rhywun lleol fel Edgar Tŷ Hir!
Y lôn i’r Hafod Lom. Hafod Lom. Hafod Lom. Hafod Lom. Edgar Jones ac Alun Cob. Maldwyn Evans wrth dalcen Capel yr Adfa. Carreg Fedd Dic Robert. Y Mans, yr Adfa. Tom Jones.
Hafod Lom
Pan ddaeth R.S. yn ‘gyfarwydd â’i harddwch’ roedd simnai ar y tyddyn, a ‘thoslau o weiriach’ yn tyfu arni. Efallai bod y to yn dal yn ei le hefyd. Mae o wedi mynd â’i ben iddo’n llwyr erbyn hyn.
Edgar Jones ac Alun Cob
Tynnwyd y llun hwn lle bu’r ‘berllan druenus’ mae R.S. yn sôn amdani. Does ond cais lle bu’r coed afalau erbyn heddiw. Pan ofynnais i Edgar beth oedd ei farn am y tyrbeins anferth ar y poncyn draw, mi edrychodd arnaf drwy gil ei lygad, a dweud ‘Dw i ddim yn gwybod. Beth ydi dy farn di?’
Maldwyn Evans wrth dalcen Capel yr Adfa
Am ryw reswm anghofiwyd tynnu llun Capel hardd yr Adfa! Fe’i codwyd ym 1742, ac mae’n edrych yn debycach i d? nag i gapel. Ac mae’r fynwent yn debyg i ardd. Bu’r gofalwr, Maldwyn Evans, yn garddio yng Ngregynog cynt. Enillodd wobr ‘Mynwent y Flwyddyn’ deirgwaith am ‘excellence and innovation in cemetery management, design and customer service…’ Mae’r tystysgrifau ar lechi yn y wal.
Carreg Fedd Dic Robert
Aeth Maldwyn â ni at fedd y bardd gwlad hwn, a phennill o’i waith wedi ei dorri o amgylch y garreg:
Carreg las heb fawr o draul
I nodi fy ngorweddfa
Ac arch gyffredin hoffwn gael
A beddrod yn yr Adfa.
Mae lle i gredu nad oedd Dic llawn cystal bardd ar y mesurau caeth. Dyma englyn o’i waith sydd i’w weld ar giât y fynwent:
Ni bydd i’m ond bedd yma – i minnau
Ym mynwent yr Adfa,
I’m garw fyd a’m gyrfa
A einioes dyn mwy, nos da.
Efallai, cofiwch chi, mai wedi ei gopïo’n flêr mae’r englyn, fel llawer un arall!
Y Mans, yr Adfa
Dyma gartre’r Parch. D.T. Davies (nid E.T. Davies fel sydd yn Barddas) fu’n weinidog ar y capel rhwng 1938-1943. Mi fyddai R.S. yn cael gwersi Cymraeg yma.
Tom Jones
Roedd hi’n haws gan Tom Jones hel atgofion am breswylydd ola’ Hafod Lom, y Gwyddel, Luke Fitzpatrick, nac am R.S. Thomas. Roedd o’n ei gofio’n iawn, ond pan ofynnais iddo sut ddyn oedd o, edrychodd arnaf drwy gil ei lygad, yr un fath yn union ag Edgar T? Hir, a dweud nad oedd o’n gwybod yn iawn…
Awdur
Twm Morys
Y Prifardd Twm Morys yw Golygydd Cylchgrawn Barddas. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 2003 ac mae'n un o leisiau mwyaf adnabyddus y diwylliant Cymraeg fel bardd ac fel cerddor.