I gyd-fynd â’r cyfweliad arbennig â Vernon Jones Bow Street ar dudalennau 34-39 o rifyn 326 o gylchgrawn Barddas, dyma rai eitemau ychwanegol i ymwelwyr â’r wefan.

Dyma Vernon Jones yn darllen ei gywydd ‘Athrawes’ a ddyfarnwyd yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2003. Hefyd, yn yr un blwch, cewch glywed y bardd yn hel atgofion am Eisteddfod Goginan.
A dyma lun o’r gadair eisteddfodol gyntaf a enillodd Vernon Jones, sef cadair Eisteddfod Abergorlech 1960.
Daeth degau o gadeiriau eraill yn sgil cadair Eisteddfod Abergorlech. Mae’r llun isod yn dangos nifer ohonynt ar bentan cartref y bardd yn Bow Street, gydag adlewyrchiad ei wraig, Dilys, yn y drych.

Cewch glywed y bardd yn hel atgofion am Eisteddfod Goginan hefyd.
Awdur
Twm Morys
Y Prifardd Twm Morys yw Golygydd Cylchgrawn Barddas. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 2003 ac mae'n un o leisiau mwyaf adnabyddus y diwylliant Cymraeg fel bardd ac fel cerddor.