Colofn olygyddol Twm Morys yn rhifyn Barddas Bach y Nadolig 2018.
Dim ond ar y we mae Barddas Bach Y ’Dolig. Mae o felly’n arbed cost aruthrol ei argraffu a holl strach ei lapio fo a’i daro yn y post. Mae’n dangos hefyd gariad at y coed: mi wnaed y Barddas Bach heb ladd yr un!
Ac mae ’na ryw berthynas ryfedd, does, erioed rhwng y beirdd a’r coed? Mi fyddaf i fy hun yn ymddiheuro i goed ’Dolig, fel Gruffudd ab Adda ers talwm yn gwaredu wrth weld y fedwen yn rhubannau del drosti yn ‘crinaw draw’n y dre…’
Rwy’n credu hwyrach mai dim ond ein coed ’Dolig ni fyddai’n dod â’u gwreiddiau i gyd yn dal arnyn nhw. A heddiw, wir i chi, maen nhw o flaen
y tŷ fel cewri tal!
Mae acw hefyd bwt o ywen las. Flynyddoedd yn ôl, mi es i a Mei Mac i fynwent Ystrad Fflur i brofi’r ias wrth weld y bedd a’r enw ar y plac o dan yr ywen enwog. Ond arswyd mawr! Yn sgîl ei thrin, mae’n debyg, rhag rhyw haint roedd hanner brigau honno hyd y llawr. Mi godais sbrigyn newydd tua maint fy mys. Wedyn plannwyd o mewn pot – impyn ir o’r ywen sy uwchben y bardd! Bu Mei a minnau yn sôn lot ers hynny am ddefnyddio’r tamaid pren i ail-greu Dafydd efo DNA.
Ond crwydro’r ydw i! Sôn yr oeddwn gynnau am Barddas Bach y ’Dolig ar y we. Rhaid cofio hefyd fod ’na rai miliynau, megis Dafydd Islwyn, sydd yn byw heb sgrîn. Gyda hyn, bydd Siôn yn dod â’i sach a byddai’n biti i rai fod yn flin am eu bod nhw heb eu Barddas Bach! Beth am i’r aelodau sydd â’r gallu argraffu copi papur i’r rai sy’n pallu?
Nadolig llawen!
TM, Trefan, 16.12.18
Awdur
Twm Morys
Y Prifardd Twm Morys yw Golygydd Cylchgrawn Barddas. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 2003 ac mae'n un o leisiau mwyaf adnabyddus y diwylliant Cymraeg fel bardd ac fel cerddor.