
Colofn o Lydaw gan Gadeirydd Barddas, Aneirin Karadog wreth iddo edrych yn ôl dros y flwyddyn a fu, acedrych ymlaen beth sydd ar y gweill i’r Gymdeithas Gerdd Dafod.
Ysgrifennaf atoch o wastadeddau Llydaw. Braf yw gallu dweud fod technoleg ein hoes wedi caniatáu i mi a fy nheulu fynd i Lydaw ar ein blwyddyn o antur gan fy ngalluogi i ar yr un pryd i barhau â’m dyletswyddau fel Cadeirydd Barddas.
Ond y gwir amdani hefyd yw mai ar wyneb y graig o ddydd i ddydd y gwneir y gwaith caib a rhaw, ac am hynny rhaid i fi ddiolch i Olygydd y Cylchgrawn, y Prifardd Twm Morys, ac i Alaw Mai Edwards, golygydd Cyhoeddiadau Barddas, am eu gwaith dygn yn sichrau bod ein cyhoeddiadau nid yn unig yn gweld golau dydd ond yn hwylio mas i’r byd megis cychod sgleiniog gosgeiddig.

Rhaid diolch hefyd i ddwy sy’n symud ymlaen i borfeydd amgenach, sef ein Trysorydd Mererid Boswell a roddodd y Gymdeithas Gerdd dafod ar seiliau cadarn yn ariannol ar gyfer y blynynyddoedd i ddod. Pob dymuniad da iti,
Mererid, yn y Cyngor Llyfrau. Yn ail, fe ffarwelion ni â’n cydlynydd Iola Wyn sydd bellach wedi mynd i weithio fel ysbïwraig Barddas yn y BBC! Mae ein diolch i tithau hefyd, Iola, yn fawr am dy waith yn symud Barddas yn ei flaen ar sawl llwyfan. Edrychwn ymlaen i dy groesawu di nôl fel aelod o’r pwyllgor gwaith.
Ond gydag ymadawiadau, daw cyfleon newydd i eraill ymuno â theulu Barddas, a braf felly yw cael estyn croeso cynnes i’n cydlynydd newydd, Ffion Medi Lewis-Hughes. Rwyt ti eisoes, Ffion, wedi profi i fod yn gaffaeliad inni yn ein gwaith o ddydd i ddydd, ac edrychaf ymlaen iti gael dod i nabod mwy ar ein haelodau ffyddlon ar hyd y flwyddyn ac o steddfod i steddfod. Hoffwn hefyd groesawu Ceri Davies a fydd yn camu i sgidiau’r Trysorydd ym mis Ionawr. Edrychaf ymlaen yn fawr i gydweithio.

Mae fy niolch yn fawr hefyd i Is-gadeirydd Barddas, Llion Jones am bop cyngor doeth ar hyd y flwyddyn ac i’n hysgrifennydd Rhys Dafis am bob cymorth ac arweiniad wrth weinyddu. Mae gan Barddas Bwyllgor Gwaith llawn o aelodau creadigol ac egnïol sydd nid yn unig yn goruwchwylio gwaith y Gymdeithas ond yn cynnig syniadau
cyffröus wrth inni barhau i edrych tua’r dyfodol.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i Elinor Wyn Reynolds am ei chyfraniad gwerthfawr fel aelod allanol o Bwyllgor Cyhoeddiadau Barddas. A dyna’r
diolchiadau drosodd!
Profedigaethau
Ar nodyn tristach, rhaid nodi ein bod wedi colli ffrind, bardd a chymeriad unigryw eleni, pan fu i Emyr Oernant, y ffarmwr ffraeth o odre Ceredigion, huno ddechrau’r flwyddyn. Roedd yr Ymryson a’r gylchdaith farddol fodern yn rhyfedd o wag heb ei gyfraniadau miniog a chrefftus. Cydymdeimlwn â’i deulu a’i ffrindiau.
Trist hefyd oedd clywed am golli dau arall a wnaeth gyfraniad i farddoniaeth Gymraeg yn eu ffyrdd gwahanol, sef Gwyn Griffiths a’r Athro Meic Stephens. Roedd Gwyn yn gyfaill personol i mi a’r teulu ac yn gynganeddwr medrus tra bod Meic Stephens wastad yn gwmni cynnes a difyr ac yn un gyfrannodd gymaint, drwy ei amryw gyfrolau, ac yn nodedig ‘Wilia’, ei gyfrol o gerddi yn y Wenhwyseg a gyhoeddwyd gan Barddas.
Yn fwyaf diweddar, fe gydweithiodd Meic a Gwyn ar y beibl o gyfrol The Old Red Tongue sy’n gyfraniad aruthrol nid yn unig i Gymru, ond i’r byd. Danfonwn bob gydymdeimlad at eu teuluoedd gan wybod y gallwn ddathlu eu cyfraniadau am ddegawdau i ddod.
Edrych ymlaen
Fel Cadeirydd, fy mlaenoriaeth, ac yn wir fy mhryder, ydy sicrhau y gallwn ddweud ymhen degawdau fod yna Gymdeithas sy’n hybu ac yn gwarchod crefft cerdd dafod yng Nghymru, a taw Barddas yw’r enw ar y gymdeithas honno. Pan sefydlwyd Barddas ym 1976 gan garedigion y gynghanedd, a rhai o feirdd mwyaf ein cenedl, o Alan Llwyd i Gerallt i T. Llew Jones, tybed a freuddwydion’ nhw y byddai Barddas nid yn unig yn yn dal i fodoli, ond yn mynd o nerth i nerth yn 2018?
Rwy’n siŵr fod gan y sylfaenwyr weledigaeth bellgyrhaeddol ac mai dyna sy’n cyfri am y pwysau a deimlaf innau a sawl un o deulu Barddas wrth barhau a gweithgareddau’r gymdeithas. Braf felly yw gallu dweud fod y cylchgrawn ar seiliau cadarn am y blynyddoedd nesaf a bod cyhoeddiadau Barddas, a chyhoedd barddoniaeth, yn saff mewn dwylo arbenigol sy’n ymboeni am sicrhau fod pethau’n cael eu gwneud nid yn unig yn iawn, ond yn y ffordd orau bosib.
Braf felly yw gallu nodi rhai o’r datblygiadau diweddaraf sy’n ehangu ar y llwyfanau y mae barddoni yn gallu eu cyrraedd. Mae Barddas bellach yn bartner ar gynllun Bardd Plant Cymru.
Ers 2011 rydym yn cynnal Colofn y Bardd Plant yn y cylchgrawn a gobeithiwn allu cynnig mwy o gyfleon i’r Bardd Plant wneud defnydd o’n
harbenigedd a chysylltiadau yn y maes. Mae swydd Bardd Plant Cymru yn hanfodol bwysig i ledu nid yn unig y syniad fod barddoni yn hwyl ymysg ieuenctid y wlad, ond hefyd yn hanfodol o ran cynnal y syniad o Gymreictod fel rhywbeth real y gall pobol ifanc ym mhobman ei hawlio.
Cronfa Gerallt
Rydym hefyd yn parhau i gydweithio â chanolfan ysgrifennu Tŷ Newydd a Llenyddiaeth Cymru drwy hybu a hysbysebu’r cwrs cynganeddu sydd wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol yng nghalendr cyrsiau’r Ganolfan. Ac rydym yn llwyddo, drwy Gronfa Gerallt, i noddi un bardd a wnaeth argraff ar y byd barddol yn y flwyddyn flaenorol i fynd ar y cwrs cynganeddu er mwyn dysgu neu fireinio’r grefft. Gall sawl un dystio mai mynd ar y cwrs unigryw hwn ar draws wythnos gyda thiwtoriaid cynganeddu o’r radd
flaenaf, yw’r ffordd orau i ddysgu’r grefft.
Beirdd Radio Cymru
Partneriaeth arall a atgyfnerthwyd yn ystod y flwyddyn oedd ein perthynas â BBC Radio Cymru, ac yn benodol cynllun Bardd y Mis. Daeth y cynllun i fodolaeth yn sgil cyfarfod a gafwyd rhwng Dafydd John Pritchard a Llŷr Gwyn Lewis, yn cynrychioli Barddas, a Betsan Powys. Rhaid canmol Betsan am ei gweledigaeth o ymgorffori beirdd a barddoni i fywyd dyddiol yr orsaf a dymunwn yn dda iti, Betsan, yn dy gyfnod newydd o newid gyrfaol. Diolch i drafod brwd gydag Ynyr Williams, rydym ni bellach yn cydweithio ar brosiect Bardd y Mis ac yn ceisio cynnig cyfleon i leisiau newydd cyffrous, yn ogystal â lleisiau ffefrynnau’r genedl hefyd i farddoni o fis i fis ar Radio Cymru. Yn neugeinfed flwyddyn y Talwrn, mae’n wych gallu dweud fod un o’n sefydliadau cenedlaethol yn gweld gwerth beirdd Cymraeg heddiw. Cadwch lygad mas am gyfrol o bigion cerddi Beirdd y Mis yn 2019.
Gŵyl Gerallt
Rhywbeth a fydd yn newid yn 2019 yw cynhadledd flynyddol Barddas, a elwir yn ‘Gŵyl Gerallt’. Mae’r Ŵyl ers ei sefydlu yn 2015 wedi bod yng Nghaernarfon, Aberteifi, Aberystwyth a Chaerdydd. Bu’n gyfle i drafod cyfrolau newydd a sawl pwnc trafod cynganeddol hynod o geeky, ond efallai fod gormod o wyliau llwyddiannus yn denu sylw pobol ym misoedd yr haf.
Y bwriad yw symud Gŵyl Gerallt i adeg o’r flwyddyn pan fydd pobol yn crefu am un ffics ychwanegol o ddiwylliant a barddoni rhwng pob prifwyl. Bydd yna felly wledd yn cael ei chynnal, o luniaeth ac o lên, gyda leinyp cyffröus o feirdd a diddanwyr i’w chyhoeddi y flwyddyn nesaf. Estynnaf
wahoddiad a chroeso cynnes i aelodau Barddas a fydd yn cael mynediad am ddim i Ŵyl Gerallt. Ac os nad ydych eto’n aelod, mae croeso mawr ichi
ymuno â theulu Barddas, neu annog ffrind neu aelod o’r teulu i wneud.
Gwersi cynganeddu
Braf hefyd oedd cael cydlynu ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol, y gwersi cynganeddu a gynhelir yn foreol yn y Brifwyl. Llynedd gofynwyd i Ysgol Farddol Caerfyrddin drefnu’r amserlen.
Roeddem yn boenus ymwybodol felly na fyddem yn damsgil ar draed cymwynaswyr brwd cerdd dafod. Mae’r Ysgol Farddol yng Nghaerfyrddin,
fel sawl dosbarth cynganeddu arall yng Nghymru yn cynnal fflam lachar y gynghanedd o wythnos i wythnos. Hoffem allu lledu’r fflamau hyn a
chynnau tanau cynganeddol ledled y wlad!
Braint oedd cael gwahodd yr Ysgol Farddol, a dosbarthiadau cynganeddu eraill i gynnal y gerddi cynganeddu yng Nghaerdydd eleni. Mae ein diolch yn fawr i Aberteifi, Caernarfon, Dinas Mawddwy, Abertawe, Caerfyrddin a Chaerdydd.
Yn wir, yn eisteddfod Conwy, mae’n fwriad gennym greu map cynganeddol o Gymru. Os oes gyda chi wersi yn digwydd yn eich hardal, dewch i’w nodi ar y map. Os ydych chi’n dymuno cael gwersi cynganeddu yn eich hardal, yna nodwch hynny ar y map, ac fe geisiwn gydlynu’r ymdrech i ledu fflam y gynghanedd.
Cyhoeddi
Ond nid dim ond cynganeddu sy’n diffinio Barddas, ac mae’n fraint gallu datgan fod eleni wedi bod yn flwyddyn aruthrol o gyhoeddi barddoniaeth Gymraeg. Nid dim ond o stabal Barddas, ond o stablau Gwasg Carreg Gwalch, Gwasg y Bwthyn, y Lolfa a’r cyhoeddwr annibynnol newydd, Cyhoeddiadau’r Stamp. Gallaf gyfri o leiaf 17 o gyfrolau o farddoniaeth ac o gyfrolau am farddoniaeth a gyhoeddwyd eleni. Mae hynny’n wych i’w weld.
Digwyddiadau
Mae yna egni rhyfeddol hefyd i’w weld ar waith yng Nghymru ar ffurf nosweithi barddol byw annibynnol sy’n cael eu cynnal, o Fragdy’r Beirdd yng Nghaerdydd a Chaernarfon i noson Cicio’r Bar yn Aberystwyth.
Mae’r digwyddiadau hyn wedi tyfu o ben a phastwn ac ymdrechion unigolion gweithgar sydd â gweledigaeth. Yn yr un modd, mae podlediad Clera yn rhedeg yn annibynnol yn fisol. Nid yw Barddas yn dymuno hawlio clod am y pethau hyn, na chwaith ddylanwadu na tharfu arnyn nhw, ond os gallwn ni gydweithio drwy hybu, hysbysebu a dysgu o lwyddiannau’r metrau hyn am beth sy’n bosib gyda thechnoleg, dychymyg a chynulleidfa barod, bydd barddoniaeth Gymraeg yn elwa.
Mae gan bawb ei ran i’w chwarae, felly, a braint Barddas yw cael bod yn rhan fach o’r ymdrech honno i ehangu gorwelion barddoni yn Gymraeg, canfod darllenwyr newydd, rhoi llwyfanau a chyfleon i feirdd a pharhau i ddysgu’r grefft o gynganeddu a barddoni. Yna gallwn ddweud yn ffyddiog ymhen degawdau fod nid yn unig Barddas, ond y byd barddol Cymraeg yn gyfan gwbwl yn gwneud mwy na dim ond bodoli, ac yn dal i fynd o nerth i nerth.
Nedelek laouen!
Tanysgrifio
Gallwch brynu rhifynnau o Gylchgrawn Barddas yn eich siopau lleol, ond y ffordd hawsaf i dderbyn Barddas trwy’r post yw tanysgrifio am gwta £25 y flwyddyn.
Awdur
Aneirin Karadog
Aneirin Karadog yw Cadeirydd Pwyllgor Barddas. Enillodd Gadair Eisteddfod Sir Fynwy 2016, bu'n Fardd Plant Cymru o 2013 hyd at 2015 ac mae'n un o feirdd blaenllaw Cymru.