• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to secondary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
Home > Digwyddiadau > Gŵyl Gerallt 2023

Gŵyl Gerallt 2023

Beirdd ifanc yng Ngŵyl Gerallt 2018
Caerwys
Cyfeiriad:
Lleoliadau amrywiol, , Caerwys, CH7 5AL

Tachwedd 24, 2023 – Tachwedd 26, 2023
19:00 – 12:00

Eleni, mae’n 500 mlynedd ers i grefft y mesurau cynganeddol (‘cerdd dafod’) gael ei chydnabod a’i safoni yn Eisteddfod Caerwys 1523. Mae’n etifeddiaeth unigryw Gymreig, sy’n cael ei harfer heddiw mor fyw ag erioed, ac yn destun balchder cenedlaethol.

Bydd Barddas yn neilltuo digwyddiadau penwythnos Gŵyl Gerallt 2023 i ddathlu’r achlysur yng Nghaerwys a’r cyffiniau, bro’r Eisteddfod wreiddiol.

Nos Wener 24 Tachwedd

Theatr Elwy, Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, 8pm

Noson yng nghwmni Gwyneth Glyn, Twm Morys a Siân James.

(Tocynnau £12 oedolion, £8 i ieuenctid, oddi wrth Barddas)

Dydd Sadwrn 25 Tachwedd

Bore

Neuadd hanesyddol Plas Mostyn, 10:30am

  • Darlith Gerallt 2023: ‘Eisteddfod Caerwys a’r traddodiad cerdd dafod’: Dr. Peredur Lynch a Dr. Gruffudd Antur
  • ‘Awenau gwerin Tegeingl’: cyflwyniadau gan Y Dr. Goronwy Wynne ac Ieuan ap Siôn
  • ‘Ceinciau’r oesoedd’: datganiad telyn gan Sioned Williams, Telynores Garmon.

(Mynediad di-dâl i nifer cyfyngedig – rhaid cofrestru â Barddas ymlaen llaw)

Pnawn:

Neuadd y Dref, Caerwys, 2pm

  • ‘Lleisiau Yfory’: cynnyrch gweithdai ysgolion cynradd Cymraeg y Gwenffrwd, Mornant a Thremeirchion, gyda Nia Morais, Bardd Plant Cymru
  • ‘Talwrn yr Ysgolion Uwchradd’: Maes Garmon v Glan Clwyd. Meuryn: Ceri Wyn Jones (ar gyfer Radio Cymru)
  • ‘Cerdd gaeth fwyaf yr iaith’: dan ofal Emyr Lewis gyda Dr Perdur Lynch, Nia Powell a’r Prifardd Dafydd John Pritchard.
  • Seremoni wobrwyo Pencerdd Caerwys 2023

(Mynediad yn ddi-dâl)

Nos

Gwesty Oriel House, Llanelwy, 8pm

Holi Pencerdd Caerwys 2023

Yng nghwmni’r beirniaid, Mererid Hopwood a Myrddin ap Dafydd

‘Ymryson 500 mlynedd’:
Meuryn: Y Prifardd Twm Morys
Islwyn: Gruffudd Antur

Talaith Aberffraw:
Myrddin ap Dafydd (Capten)
Osian Owen
Nici Beech
Rhys Iorwerth

Talaith Mathrafal:
Mererid Hopwood (C)
Peredur Ionor Lynch
Eurig Salisbury
Emyr Lewis

Talaith Dinefwr:
Tudur Dylan Jones (C)
Mari George
Hywel Griffiths
Aneirin Karadog

(Tocynnau £12 oedolion, £8 i ieuenctid, oddi wrth Barddas)

Bore Sul 26 Tachwedd

Pererindod Tegeingl am 11.00

Tro hanesyddol i Ffynnon Gwenfrewi ac Abaty Dinas Basing yng nghwmni’r cywyddwyr.

Archebu tocynnau

Mae modd prynu tocynnau ar Eventbrite.

Archebu’ch lle

Cystadleuaeth Cadair Caerwys

Fel rhan o ddathlu 500 mlynedd crefft Cerdd Dafod eleni, ac yn unol â thraddodiad Eisteddfodau Caerwys, mae Barddas yn cynnal cystadleuaeth arbennig, sy’n agored i’r holl feirdd. Y wobr fydd cadair arian fechan unigryw, wedi ei noddi gan gyfeillion y Pethe ardal Caerwys.

Testun: Cerdd mewn 3 neu fwy o’r mesurau caeth traddodiadol, hyd at 150 llinell: ‘Etifeddiaeth’.

Beirniaid: Y Prifeirdd Mererid Hopwood a Myrddin ap Dafydd (gyda sêl bendith Tudur Aled!)

Dyddiad cau: 31 Hydref, 2023

Y cynigion i’w hanfon dan ffugenw (gydag enw a manylion cyswllt ar wahân), yn electronig neu drwy’r post erbyn y dyddiad cau:
Rhys Dafis, Ysgrifennydd Barddas, Cilgwyn, Llansannan. LL16 5HL
[email protected]

Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Cysylltu

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws Edgar Parry Williams
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2026: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899