
Yng Ngŵyl Gerallt bydd cyfle i gofio Iwan Llwyd, trafod cerdd dafod yng nghwmni pobl ifanc Cymru, lansio cyfrol Dathlu’r Talwrn a llawer mwy.
Eleni mae blas ychydig yn wahanol ar Ŵyl Gerallt, gyda’r holl ddigwyddiadau ar-lein a chyfle i chi wylio’r digwyddiadau o glydwch eich cartref.
Gair o’r Gadair
Croeso gan Aneirin Karadog
Amser: 10:30
Ffilm: Celf Iwan
Y gyntaf o ddwy ffilm yn arddangos gwaith artistiaid Cymru yn ymateb yn greadigol i waith Iwan Llwyd.
Amser: 11:00
Ffilm: Cofio Iwan
Y gyntaf o ddwy ffilm gydag unigolion o bob cwr o Gymru yn hel atgofion am Iwan Llwyd.
Amser: 11:30
Trafodaeth: Cofio Iwan
Sgwrs fyw yn trafod bywyd a gwaith Iwan Llwyd gyda Geraint Lovgreen, Twm Morys, Sian Northey, Myrddin ap Dafydd a Mererid Hopwood yn cadeirio.
Amser: 12:00
Trafodaeth: Cerdd Dafod Pobol Ifanc Cymru
Beth mae pobol ifanc Cymru yn ei feddwl o’r gynghanedd, maes llafur llenyddiaeth Cymraeg, a barddoniaeth Iwan Llwyd? Trafodaeth gyda Cadi Glwys, Kayley Sydenham, Huw Griffiths, Mirain Owen, Lloyd Warburton a Catrin Aur. Aneirin Karadog yn cadeirio.
Amser: 13:00
Darlith: “Nid yw diwedd y daith ond ei dechrau” : Golwg ar waith Iwan Llwyd.
Darlith fyw gan Dr Manon Wynn Davies. Bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth, astudiodd Manon waith Iwan ar gyfer ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Alaw Griffiths yn cadeirio.
Amser: 14:00
Lansiad: Dathlu’r Talwrn
Lansiad byw yng nghwmni’r meuryn Ceri Wyn Jones; y cynhyrchydd am 18 mlynedd, Dwynwen Morgan; cystadleuydd o’r dechrau un ers yn 15 oed, Llion Jones; a chystadleuydd weddol newydd ond sydd eisoes wedi ennill Talwrn y Beirdd, Marged Tudur. Pa straeon doniol a difyr fydd yn cael eu datgelu?
Amser: 15:00
Ffilm: Cofio Iwan
Yr ail o ddwy ffilm gydag unigolion o bob cwr o Gymru yn hel atgofion am Iwan Llwyd.
Amser: 16:00
Ffilm: Celf Iwan
Yr ail o ddwy ffilm yn arddangos gwaith artistiaid Cymru yn ymateb yn greadigol i waith Iwan Llwyd.
Amser: 16:30
Ffrydio
Bydd yr holl ddigwyddiadau yn cael ei ffrydio yn fyw. Gallwch eu gwylio ar sianel YouTube Barddas