Fel rhan o ddathliadau Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth rydym yn cynnig gwobr o £100 am gerdd rydd. Bydd y gerdd fuddugol yn cael ei chyhoeddi yn Barddas Bach y ‘Dolig i godi calon pawb ganol gaeaf noethlwm. Rydym yn gofyn i feirdd ysgrifennu cerdd rydd ar y testun ‘Haf Hirfelyn Tesog’.