Dyma gerdd dymhorol gan Aron Pritchard sy’n ymddangos yn Barddas Bach y Nadolig 2018.
pan oedd Lôn y Santes Fair
yn gerrynt lôn o gariad,
rhannai’r dyrfa, gair am air
yr Ŵyl yng nghyffro’r eiliad
heb ’run ffin, heb ’run nacáu,
yn hafan o dangnefedd,
byddai’r byd i gyd yn gwau
i ganol ei digonedd,
ond mae Lôn y Santes Fair
heb weddi, heb wahoddiad,
nid oes llety, gwely gwair,
’run Seren yn ei siarad,
porth Jwdea sydd ar gau
drwy garol ddidrugaredd
gŵyl y Brit, a Brexit brau
Nadolig ein dialedd.
Awdur
Aron Pritchard
Aelod o dîm Aberhafren ar y Talwrn (cafodd Dlws Coffa Dic yr Hendre am gywydd gorau’r gyfres yn 2011) a thîm Morgannwg yn Ymryson yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae hefyd yn un o Feirdd y Bragdy yn y nosweithiau barddoniaeth byw poblogaidd, Bragdy’r Beirdd, yng Nghaerdydd.