Er mwyn dathlu barddoniaeth mewn dyddiau caled, beth am rannu eich hoff gerddi, cyfrolau barddoniaeth neu fardd gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol?
Grŵp Facebook Cerddi Corona
Hefyd ga’i dynnu’ch sylw chi at dudalen Facebook Barddas lle mae grŵp newydd wedi’i sefydlu – Cerddi Corona. Yn y 24 awr cyntaf, ymunodd dros 450 o aelodau!
Ysbrydolwyd y grŵp yma gan y grŵp Facebook ‘CÔR-ONA!’ ac mi ddaeth y syniad a’r enw wrth Gwennan Evans.
Cerddi
Mae rhai cerddi wedi dod i law eisoes. Dyma flas i chi gan ddau ohonynt.
Cyfrannu
Y bwriad yw rhannu clipiau fideo o bobol yn darllen, adrodd, datgan neu berfformio eu hoff gerddi gyda’r gobaith y bydd yn codi calon ac yn gwneud i nifer chwerthin!
Beth am i chi wneud clip a’i rannu yn y grŵp Facebook? Neu galwch eu rhannu gyda ni ar Twitter gan grybwyll @trydarbarddas neu #cerddicorona.