
Yn wreiddiol o Fôn, astudiodd Manon Awst Bensaerniaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt cyn symud i ddinas Berlin i ddatblygu ei gyrfa fel artist. Bu hi’n byw yno am bron i ddeng mlynedd cyn symud yn ôl i Gymru yn barhaol a sefydlu ei stiwdio yng Nghaernarfon. Yn ogystal â datblygu prosiectau celf amrywiol, mae hi'n mwynhau barddoni ac yn perfformio yn rheolaidd efo'r grŵp barddol Cywion Cranogwen. Mae hi’n byw yn Twtil efo'i meibion Emil a Macsen a'i dyweddi Iwan Rhys.
manonawst.com
twitter.com/manonawst
Prosiectau
Gorffennaf 2019
Cyfraniadau i Gylchgrawn Barddas
Dyma rai o'r rhifynnau diweddaraf y cyfrannodd Manon Awst iddynt.