Y bardd Gerallt Lloyd Owen (1944-2014) oedd un o sylfaenwyr a golygyddion cyntaf Barddas. Roedd yn gartŵnydd, yn feirniad, yn feuryn Ymrysonau Barddas a chyfres Talwrn y Beirdd ac yn un o feirdd mwyaf ei oes. Braint Barddas oedd cyhoeddi cyfrol o'i waith, 'Y Gân Olaf', yn 2015.