
Mae Casia yn fardd ac yn awdur. Cyhoeddodd Eiliad ac Einioes, ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth i oedolion yn ystod haf y pandemig, 2020. Enillodd Wobr Tir na Nog yn 2021 am ei nofel i blant, Sw Sara Mai. Pan nad yw’n ysgrifennu mae Casia’n gweithio i elusen y Disasters Emergency Committee. Casia oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2017 a 2019, a bu’n aelod o dîm Y Ffoaduriaid ar gyfres Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru am ddegawd, rhwng 2009 a 2019, cyn symud o Gaerdydd. Mae Casia bellach yn byw yng Nghaernarfon efo’i gŵr Tom a’u meibion, Caio a Deri.
Llyfrau gan Casia Wiliam
Prosiectau
Mehefin 2024
Gorffennaf 2020
Medi 2017
Does dim
2017–2019
Cyfraniadau i Gylchgrawn Barddas
Dyma rai o'r rhifynnau diweddaraf y cyfrannodd Casia Wiliam iddynt.