Gair gan y golygydd: Mae ambell adolygiad o lyfr yn ddarn o lenyddiaeth ynddo’i hun. Un felly oedd adolygiad Robert Rhys o gyfrol newydd Alan Llwyd yn rhifyn yr Hydref o Barddas.
Dyna pam mae’r blerwch golygyddol fu yn ei gylch yn arbennig o ddiflas, sef rhoi teitl y gyfrol Cyrraedd a Cherddi Eraill a llun clawr honno wrth ben yr adolygiad, yn lle Dim Ond Llais. Dyma gyhoeddi’r adolygiad eto fel y dylai fod, gan obeithio y caf faddeuant gan y bardd a’r adolygydd…
Ped âi dyn ati i lunio hanes barddoniaeth Gymraeg rhwng 1900 a’n dyddiau ni, gallai ystyried 1962 yn fan cychwyn anuniongred.
Yn union fel y dywedodd y beirniad hwnnw gynt am y stori fer, ei bod yn cynnig safle fanteisiol i edrych ar y gorffennol a’r dyfodol oddi arni, mi ddewiswn i 1962 yn wylfa i graffu yn ôl ac ymlaen oddi arni. Dyma echel o flwyddyn mewn gwirionedd. Ystyriwch: yn y flwyddyn honno cyhoeddwyd dwy flodeugerdd a enillodd eu lle dylanwadol ar feysydd llafur yr ysgolion, sef The Oxford Book of Welsh Verse dan olygyddiaeth Thomas Parry, a Cerddi Diweddar Cymru wedi’i olygu gan H. Meurig Evans gyda rhagymadrodd gan Hugh Bevan. Yn y flwyddyn honno y cafwyd ymyrraeth wleidyddol fawr Saunders Lewis trwy’r ddarlith radio, ‘Tynged yr Iaith’. Yn 1962 hefyd y cyhoeddwyd cyfrol gyntaf un o feirdd mwyaf arwyddocaol y blynyddoedd ers hynny, Gwyn Thomas, a’i theitl cyfeiriadol, Chwerwder yn y Ffynhonnau, yn awgrymu golwg eironig ar fyd brith, hynny’n gyson ag un o bregethau cyson ei athro ym Mangor, John Gwilym Jones, ac enghreifftiau ei fydolwg yn aml o waith R. Williams Parry.
‘Y gynghanedd, a barddoniaeth yn gyffredinol, a lywiodd gwrs fy mywyd.’
Alan Llwyd
Ac er mwyn cryfhau fy nadl ymhellach rwyf am gymryd mai yn ystod y flwyddyn honno hefyd y meddiannwyd Alan Lloyd Roberts gan y cynganeddion dan arweiniad T. Emyr Pritchard yn Ysgol Botwnnog. Pan oedd tua 14 oed, ym mlwyddyn 4 yn yr ysgol y bu hyn, meddai Alan Llwyd yn Dim Ond Llais; y drydedd flwyddyn oedd hi yn ôl Moi Parry yn y bennod afieithus honno yn Alan. ‘Y gynghanedd a benderfynodd fy nhynged i. Hi a bennodd fy ffawd,’ medd Alan Llwyd yn Dim ond Llais. ‘Y gynghanedd, a barddoniaeth yn gyffredinol, a lywiodd gwrs fy mywyd.’ Dweud ysgubol, ac eir ymhellach trwy awgrymu bod cynnydd a llwyddiant Cymdeithas Barddas i’w priodoli i’r deffroad unigol ym Motwnnog pan ddisodlwyd diddordebau ‘naturiol’ llanc, a’i adael gan newydd win yn feddw fawr.
Gwaith beirniaid a chofianwyr y bardd fydd cloriannu ei dystiolaeth a’i farn am ei yrfa a’i weithiau, a bydd ambell un yn mynd ati’n ddrwgdybus o’r gred mai unigolion, y ‘gwŷr mawr’ bondigrybwyll sy’n llywio hanes. Er cydymdeimlo â’r safbwynt hwnnw, byddai’n rhaid glynu’n eithafol ato os am warafun i Alan Llwyd le cwbl ganolog ym marddoniaeth a diwylliant llenyddol ei gyfnod.
Awn yn ôl i ddyddiau Botwnnog. Arwr mawr ei athro Cymraeg oedd R. Williams Parry, a hawdd anghofio mai cyfrol gyfoes i fesur oedd Cerddi’r Gaeaf ar y pryd (yn 1952 y’i cyhoeddwyd). Y mae perthynas Alan Llwyd a Williams Parry yn haeddu astudiaeth ynddi’i hun, o’r gwirioni a’r efelychu cynnar hyd at fesur o ddelwddryllio, yn bennaf wrth dynnu sylw brwd at ddyled Bardd yr Haf i feirdd Saesneg, mawr a mân (hyn yn ei astudiaeth Llên y Llenor a’r rhagymadrodd i gyfrol Cyfres y Meistri), wedyn at gerddi sy’n sefydlu perthynas chwareus cherddi Bardd yr Haf, cerddi ‘Clychau’r Gog’ er enghraifft, cyn cyrraedd uchafbwynt aeddfed sy’n costrelu gwybodaeth a phrofiad darllen y blynyddoedd yn Bob, y mwyaf empathig o’i gofiannau diweddar. Y diweddaraf o’r cofiannau yw’r un i T. Gwynn Jones (yn y wasg), un y ‘safodd gwlad ar ei thraed’ yn ymateb syn i’w awen ddisglair ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Cyfoesodd Gwynn ac Alan, dau o feistri mawr cerdd dafod yr oesoedd, am flwyddyn; mae’r bardd yn cofio, yn nyddiau’r deffroad, gael benthyg Caniadau a Manion. Roedd teyrnged amlwg i arddull ddiweddar Gwynn Jones ym mhryddest y goron yn 1973; enghraifft drawiadol arall o berthynas y ddau yw ‘Hydref ym Mhenllyn [1]’ yn Edrych trwy Wydrau Lledrith, cerdd na all beidio â dwyn i gof gywydd Gwynn Jones, ‘Hydref’ (1906). Er mai fel cerdd yn perthyn i gyfnod prentisiaeth y byddai’r bardd yn meddwl amdani, mae dyn yn amau bod y prentis yn synhwyro’n gynnar bod ganddo’r adnoddau i ymuno â’r meistri. Gwrthrych un arall o’i gofiannau (ceir pennod ‘Cofiannu’ yn Dim Ond Llais) oedd Waldo Williams, a fu’n dysgu ym Motwnnog yn y 1940au. Hwyrach nad yw perthynas ‘gelfyddydol’ Alan a Waldo mor glos a’r un rhyngddo a Williams Parry, dyweder, ond bu bardd ‘Preseli’ yn elfen amlwg yn natblygiad syniadol y bardd iau yn y 1970au.
I’r athronydd J. R. Jones, un arall o feibion Llŷn a dreuliodd gyfnod yn Abertawe, y mae mesur o’r diolch am hynny, am iddo ddefnyddio barddoniaeth Waldo i eglurebu ei syniadaeth (dan ddylanwad Simone Weil) am y bychanfyd a’r angen am wreiddiau. Fe’i dyfynnwyd a’i ddilyn gan Emyr Llywelyn yn yr areithiau a berthynai i ddyddiau sefydlu mudiad Adfer, ac mae cerdd gywrain Alan Llwyd ‘Adfer’ (1976) gyda’i chyfeiriadaeth at gerddi Waldo, yn ogystal â cherdd y goron yn yr un flwyddyn, yn groniclau cyfamserol o’r meddylfryd. Roedd blodeugerdd Thomas Parry yn 1962 yn cadarnhau’r stori am draddodiad barddol cydlynus, gyda’r nodyn am Gwynn Jones, er enghraifft, yn mynnu mai ef oedd y bardd mwyaf medrus yn y mesurau caeth ers Tudur Aled. Mae’r bennod bwysig ‘Y Gynghanedd’ yn Dim Ond Llais yn datgelu’r darllen dwfn a helaeth a wnaeth Alan Llwyd ar gerddi Beirdd yr Uchelwyr wrth lunio Crefft y Gynghanedd (2010). Gwerth ystyried cyfraniad y darllen hwn i flodeuo diweddar rhyfeddol y bardd, gyda’r cywyddau coffa i Gerallt Lloyd Owen a Gwynn ap Gwilym ymhlith y campau llachar. O safbwynt bywgraffyddol mae’n siŵr bod profi mesur o ryddhad ar ôl degawd a ddisgrifir yn y llên-gofiant fel ‘cyfnod diflas a phryderus… profedigaethus’ yn arwyddocaol. Dau fardd arall a gynhwyswyd yn y ddwy flodeugerdd oedd Euros Bowen a Gwenallt, yn naill yn destun cyfrol y bwriodd yr awdur, meddai, ei brentisiaeth fel beiriniad drwyddi, y llall eto yn destun cofiant.
Swyddogaeth arall bwysig ym mherthynas Alan â’r traddodiad yw ei waith fel cyhoeddwr (pwnc y neilltuir pennod iddo) yn gyntaf gyda Christopher Davies, yn bennaf gyda Chyhoeddiadau Barddas. Roedd tri o’r beirdd a grybwyllwyd uchod yn wrthrychau cyfrolau Cyfres y Meistri, ac fel golygydd (13 cyfrol) a chomisiynydd blodeugerddi sicrhaodd bod dathlu ac ailgyflwyno’r traddodiad barddol hen a diweddar, gan gynnwys rhoi llwyfan i leisiau newydd, â lle canolog yn rhaglen gyhoeddi’r Gymraeg. Mae bywiogrwydd byd barddas amrywiol ac amryddawn 2019 i’w briodoli i fesur yn sicr i’r gofod a hawliwyd gan ddychymyg ac ymroddiad Alan Llwyd.
Uchafbwyntiau i lawer fydd y penodau sy’n agor a chloi’r gyfrol, ‘Mannau Cychwyn’ gyda’r ymdriniaeth agored â’i gefndir teuluol cynnar (ar ôl traethu am natur cyfrwng y llên-gofiant), a ‘Fy Nheulu fy Hun’, gwerthfawrogiad cynnes o’r teulu sefydlog, a’r teulu ehangach a ddaeth yn rhan iddo yn sgil cwrdd â Janice ar ôl symud i Abertawe. (Dylwn ddatgan diddordeb trwy nodi bod y gyfrol yn cloi gyda’r cywydd cyfarch hael a luniwyd ar adeg fy ymddeoliad.) Wrth holi’r awdur pan lansiwyd y gyfrol yn Nhreforys roeddwn am glywed mwy am yr hyn a ddywedir yn y gyfrol am y gwaith creadigol yn mireinio’r profiad gwreiddiol, ac am allu hudo, llithiol y gynghanedd i ddod â threfn i’r profiadau a’r argyhoeddiadau mwyaf cythryblus, i’w gwastrodi, neu o leiaf i roi’r argraff honno. Dyna ichi’r gerdd ‘Ar ddydd fy mhen-blwydd’ sy’n sôn am gladdu ‘fy mam iawn’ a’i llinellau clo ‘ond ar ôl i mi gladdu fy nain yn nhwyllwch un Ionawr/ tad a mam oedd taid i mi.’ Rwy’n credu mai cytuno a wnâi’r bardd fod gallu llunio llinellau fel hyn yn fodd i roi trefn ar y profiad, rhoi caead arno er mwyn gallu symud ymlaen. Bydd rhyddid gan feirniad a chofiannydd i graffu’n fanylach ar y wedd hon ac i ystyried ei harwyddocâd. Mae pennod arall yn traethu ar y modd y sianelwyd cynneddf i feddwl mewn delweddau i fyd teledu a ffilm, ac nid annisgwyl gweld neilltuo pennod i gyflwyno ymateb yr awdur i ryfeloedd yn ei waith.
Tua chwarter canrif yn ôl adolygais hunangofiant cyntaf Alan Llwyd, Glaw ar Rosyn Awst. Rwy’n cofio sôn am y straeon mân (yr helyntion eisteddfodol hysbys ym myd eisteddfota a chyhoeddi) a stori fawr arwyddocaol datblygiad bardd o bwys arhosol. Mae’r llwch wedi setlo ar y straeon mân bellach, ac mae amlinell y stori fawr, a’i chyd-destun ehangach, wrth i’r llanc ifanc o Lŷn ganfod y traddodiad, ei ddathlu a’i helaethu, yn eglurach fyth.
Awdur
Robert Rhys
Academydd a golygydd yw Robert Rhys. Bu'n olygydd ar gylchrawn Barn ar ddau achlysur. Mae hefyd yn feirniad ac yn adolygydd.