• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to secondary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
Home > Erthyglau > Maniffesto Osian Rhys Jones

Maniffesto Osian Rhys Jones

Rydw i am weld amrywiaeth fawr o ddigwyddiadau barddonol tros Gymru, a rheini oll yn cyfrannu at un nod, sef cadw ein traddodiad barddol yn fyw i’r cenedlaethau nesaf o Gymry. Traddodiad poblogaidd, safonol a chyfoes….”

Mae gan farddoniaeth Gymraeg bellach genhedlaeth fywiog arall sydd yn gweld gwerth canu i gynulleidfa a chyflwyno’u cerddi yn fyw, ac mi hyderwn ddweud bod mwy o feirdd yn gyffyrddus y tu ôl i’r meic heddiw nac a fu ers tro. Be’ wnawn ni i fanteisio ar hyn? A be’ nesa’ i’r beirdd fu wrthi ers blynyddoedd?

Mynd ar daith ydi un ateb; cael syniad am sioe farddol o’n pen a’n pastwn ein hunain, chwilio lleoliadau a dyddiadau, cael nawdd pe bai angen, codi pac a mynd. Bu taith ‘Crap ar Farddoni’ yn efelychu teithiau beirdd fel Myrddin ap Dafydd, Iwan Llwyd, Twm Morys a’u cenhedlaeth nhw, ac rwy’n si?r y bydd rhagor o deithiau fel hyn yn y blynyddoedd i ddod.

Ond tybed nad oes lle i ddarpariaeth fwy concrid, cyson a pharhaol hefyd a fyddai’n gallu cynnal cynulleidfaoedd, beirdd a threfnwyr neu noddwyr?

Ac os am fynd â llenyddiaeth ‘i bob cwr o Gymru’, pa le gwell i ddechrau na chyda’r beirdd sydd â’u traed eisoes yn cosi? A pha gorff gwell i arwain y fenter na BARDDAS, Y GYMDEITHAS GERDD DAFOD?

  • Beth am gasglu ynghyd restr ganolog o feirdd sydd ar gael ar gyfer cynllun teithio cenedlaethol. Gellir nodi a ydynt am deithio ar draws Cymru neu o fewn rhanbarth(au) penodol o Gymru. Gallant nodi pa nosweithiau o’r wythnos y maent ar gael.
  • Beth am ymchwilio a chasglu enwau lleoliadau a fyddai’n hoffi cynnal noswethiau rheolaidd led-led Cymru, ac efallai rhai all gynnig mymryn o nawdd hefyd? Byddai’n agored i ddigwyddiadau mympwyol yn ogystal – nosweithiau codi arian, er enghraifft.
  • Gyda bas data canolog o’r wybodaeth yma, gallai’r beirdd a’r trefnwyr wneud cais i weinyddwr, er mwyn cael gwybod ble a phwy sydd ar gael ar gyfer dyddiad penodol.
  • Gellid creu brand cryf ar gyfer holl nosweithiau’r cynllun fyddai’n mynnu safon gan y beirdd ac yn denu cynulleidfaoedd. Bu marchnata barddoniaeth Gymraeg yn wendid amlwg yn rhy hir.
  • Cynnal nosweithiau gyda 3-4 bardd unigol. Nosweithiau gweddol fyr, heb fod mwy na 2-3 awr (gyda thoriad yn y canol) gan dorri’r noson yn ei blas.

Manteision:

  • Does dim ffordd well o fod yn hunanfeirniadol na darllen eich cerddi i gynulleidfa a chlywed ei ffaeleddau drosoch eich hunain. Wrth deithio i amrywiaeth o leoliadau o flaen cynulleidfaoedd amrywiol, bydd disgyblaeth y beirdd ar ei hennill.
  • Ceir cyfle i weithio a pherfformio gyda chyfuniadau diddiwedd o wahanol feirdd. Byddai hyn hefyd yn golygu y gallai pob sioe fod yn gyfuniad unigryw, gan ddenu cynulleidfaoedd lleol yn ôl.
  • Byddai rhyddid llwyr gan y beirdd i gynnal noswaith gytbwys ac amrywiol o ran cynnwys heb deimlo rheidrwydd i swcro pleidleisiau neu drio bod yn ysgafn neu ddoniol.
  • Yn ariannol, byddai’n gwneud llawer mwy o synnwyr rhoi tâl tecach i 3-4 bardd berfformio ar eu telerau eu hunain na rhoi pres losin i 12-16 bardd mewn stomp. Byddai’r arian yn mynd yn bellach fel hyn hefyd.
  • Byddai’n gyfle heb ei ail i genedlaethau o feirdd ifanc (a hen!) ddysgu eu crefft, perfformio eu gwaith a dod o hyd i’w llais.
  • Byddai hyn yn ddi-os yn codi creadigrwydd beirdd ac yn eu hysgogi i drefnu teithiau annibynnol, ad hoc, eu hunain.
  • Byddai cynllun o’r fath yn hwyluso trefnu digwyddiadau barddol, yn bwrw ymaith y maen tramgwydd mwyaf, sef mynd ati i drefnu yn y lle cyntaf.
  • Byddai menter felly yn rhoi cyfeiriad ac amcan newydd i Gymdeithas Barddas.

Awdur


Osian Rhys Jones

Osian Rhys Jones

Bardd a chynhyrchydd digidol yw Osian Rhys Jones. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 2017. Mae'n un o sylfaenwyr Bragdy'r Beirdd yng Nghaerdydd.

osian.cymru

twitter.com/osianrhysjones



Prif Far Ochr

Sidebar erthygl

Rhifyn dan sylw

315: Rhifyn Haf 2012

6 Rhifyn Haf 2012


Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Cysylltu

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws Edgar Parry Williams
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2026: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899