• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to secondary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

Before Header

  • Cysylltu

Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Ein nod yw addysgu’r cyhoedd i werthfawrogi a deall barddoniaeth Gymraeg, yn enwedig y gelfyddyd o gynganeddu, a hybu’r rhai sydd am farddoni.

Mobile Menu

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota
  • Cysylltu

Chwilio’r wefan

  • Cyhoeddiadau
  • Cylchgrawn
  • Y Gymdeithas
  • Hybu’r grefft
  • Tanysgrifio
Home > Llyfrau > Ar Ddisberod

Ar Ddisberod

Ar Ddisberod - Grug Muse

Dyma gerddi gafodd eu hysgrifennu dros gyfnod o bum mlynedd o godi pac a chrwydro cyfandir Ewrop a'r Unol Daleithiau.

Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas

Pris: 5.95

Prynu ar wefan Gwales



Awdur

Grug Muse
Grug Muse

Dyddiad Cyhoeddi: Mai 1, 2017

Rhif ISBN: 9781911584025

Categori: Barddoniaeth

Cyfres: Tonfedd Heddiw

Disgrifiad

Daeth Elan Grug Muse i sylw’r byd llenyddol Cymraeg drwy ennill Cadair Genedlaethol yr Urdd yn 2013. Ers hynny, aeth ymlaen i fireinio’i chrefft drwy gyhoeddi yn gyson mewn cylchgronau Cymraeg a Saesneg. Ffrwyth myfyrdod y cyfnod hwnnw o deithio ac astudio yw ei chyfrol gyntaf o gerddi, Ar Ddisberod.

Ynddi mae’n mapio’r daith o’i bro enedigol yn Nyffryn Nantlle i brifysgolion Nottingham a’r Weriniaeth Tsiec. Bu’n byw hefyd am gyfnodau yn Sbaen a’r Unol Daleithiau cyn dychwelyd i barhau gyda’i hymchwil ym Mhrifysgol Abertawe. Dyddiadur barddol ydyw sy’n cofnodi ei theimladau dyfnaf, ac wrth y mwyafrif o’r cerddi nodir y flwyddyn a’r man lle taniwyd y dychymyg.

Ei champ fu cyfleu naws y lleoliadau hyn mewn cardiau post o gerddi byrion. Drwy gyfrwng delweddau llachar daw’r eiliadau a ddaliwyd yn brofiad i ninnau hefyd. Gan mor synhwyrus yw’r dweud, cawn arogli’r coed almwn ym Madrid, gwrando ar sgrechian bygythiol gwylanod Cape Cod a gwisgo’r cotiau gwlân sy’n ein cadw’n gynnes yn nosweithiau rhynllyd Prag.

Un o’i phrif ddiddordebau academaidd yw llif poblogaethau ar draws y gwledydd, ac adlewyrchir hynny yn y cerddi wrth iddi geisio dod o hyd i’w hunaniaeth mewn cymdeithas amlieithog ac amlhiliol sy’n troi’n fwyfwy symudol. Wrth chwilio am ei gwreiddiau sylweddola fod etifeddiaeth ei Grampa Americanaidd yn gymaint rhan o’i chynhysgaeth ag ydyw milltir sgwâr ei thaid a’i gap stabal yn Arfon gynt.

Er hynny, gŵyr hithau fod ein broydd, fel ninnau, yn dieithrio’n gyflym ac y bydd raid iddi felly bacio’r atgofion cynnar hyn yn ofalus yn ei rycsac wrth godi pac a symud ymlaen i groesi’r ffiniau newydd a chofleidio’r dyfodol dieithr yn ei holl orfoledd a’i dristwch.

Mae ganddi feddwl agored a llais ifanc, anturus sydd yn werth gwrando arno. Ymunwch gyda hi ar y daith. Fe’i cewch yn gydymaith difyr – a heriol hefyd.

Llyfrau tebyg

Trysorau’r Nadolig

Clawr Trysorau'r Nadolig

12.95
Jo Heyde
Hydref 31, 2025

Mae

Clawr cyfrol ‘Mae’, Mererid Hopwood

10
Mererid Hopwood
Gorffennaf 9, 2025

Holl Lawenydd Gwyllt

Clawr Holl Lawenydd Gwyllt Llŷr Gwyn Lewis

9.95
Llŷr Gwyn Lewis
Mehefin 4, 2025

Footer

Dolenni perthnasol

  • Y Swyddogion a’r Pwyllgor Gwaith
  • Cysylltu

Cyhoeddiadau

  • Barddoniaeth
  • Beirniadaeth lenyddol
  • Blodeugerddi
  • Drama
  • Hanes Beirdd a Llenorion
  • Nofelau
  • Y Gynghanedd

Tlysau Barddas

  • Tlws D. Gwyn Evans
  • Tlws Edgar Parry Williams
  • Tlws y Gerdd Rydd
  • Tlws Coffa John Glyn Jones
  • Tlws Pat Neill
  • Tlws Rolant o Fôn
  • Tlws Roy Stephens
  • Tlws T. Arfon Williams
  • Tlws W.D. Williams
  • Tlws yr Ysgolion Uwchradd
  • Newyddion
  • Cerddi
  • Erthyglau
  • Digwyddiadau
  • Adolygiadau
  • Chwilota

Site Footer

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Hawlfraint © 2025: Barddas | Rhif elusen cofrestredig Y Gymdeithas Gerdd Dafod: 511899