Is-y-Coed, , Wrecsam, LL13 9UR
Dewch i’n gweld ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 2025.
Stondin Barddas
Does dim stondin unigol gan Barddas eleni.
Bydd lle ganddon ni le yn Hwb y Sector Gwirfoddol. Mae’r Hwb yng nghornel eithaf y maes, ar y chwith wedi dod fewn trwy’r brif fynedfa, ac wedi’i leoli rhwng Cymdeithasau 1 a 2.
Sesiynau Barddas yn y Babell Lên
Dydd Sadwrn, 5pm yn y Babell Lên – Mae, Mererid Hopwood
Mererid Hopwood sy’n darllen a thrafod cerddi o’i chyfrol newydd Mae, gyda Tecwyn Ifan yn canu rhai o’i ganeuon sy’n seiliedig ar ei gwaith.
Dydd Sul, 2:15pm yn y Babell Lên – O Ffrwyth y Gangen Hon
Nia Morais fydd yn holi Tegwen Bruce-Deans, Esyllt Lewis a Megan Lloyd, tair a gyfrannodd i’r gyfrol O Ffrwyth y Gangen Hon, mewn sesiwn dan ofal Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru a Barddas
Dydd Llun, 1:30pm ym Mhabell y Cymdeithasau – cyfrolau newydd Barddas
Sioned Erin Hughes fydd yn holi Mererid Hopwood, Llŷr Gwyn Lewis a Jo Heyde am eu cyfrolau diweddaraf o farddoniaeth dan adain Cyhoeddiadau Barddas.
Ymryson Barddas
Bydd pob ymryson yn dechrau am 1pm ac yn gorffen erbyn 2.35pm
Trefn y gornestau:
- Dydd Mawrth: Caernarfon v Llŷn ac Eifionydd v Meirion
- Dydd Mercher: Ceredigion v Deheubarth v Y Penceirddiaid
- Dydd Iau: Caerfyrddin v Maldwyn v Morgannwg
- Gwener: Rownd derfynol
Meuryn: Twm Morys
Islwyn: Gruffudd Antur
Cynigion y dydd
Gallwch gystadlu ar:
Tlysau Barddas
Rhwng 1:35pm a 1:40pm o ddydd Mawrth i ddydd Iau bydd Cadeirydd barddas, Gwenallt Llwyd Ifan yn cyflwyno enillwyr tlysau Barddas:
- Dydd Mawrth: Tlws Pat Neill (ysgolion cynradd)
- Dydd Mercher: Tlws yr Ysgolion Uwchradd (blynyddoedd 7 i 11)
- Dydd Iau: Tlws Coffa D. Gwyn Evans (ieuenctid o 16 i 25 oed)