
Rhyddhau'r gair, rhyddhau'r person a rhyddhau'r genedl. Dyma nod y Prifardd Jim Parc Nest wrth gyhoeddi'r gyfrol arbennig hon. Dyma fardd sy'n angerddol dros 'ryddhau'r gynghanedd rhag bod yn grefft ei 'gorffennol yn unig' a dymuna i'r gyfrol fod yn ysgogiad i lawer arbrofi gyda'r gynghanedd. Teimlwn y cyffro a'r arbrofi hwn yn ei gerddi wrth iddo ganu mawl i Iolo Morganwg a gwrthwynebu gorthrwm.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 9.95
Disgrifiad
Mae’r gyfrol yn cynnwys cofio anwyliaid a gollwyd, ynghyd â wynebu diwedd y daith, yn ogystal â cherddi gwleidyddol a rhai cignoeth sy’n taranu yn erbyn y frenhiniaeth ac yn erbyn annhegwch. Mae yna gerddi cyfarch wrth reswm, ac amryw i deulu a ffrindiau agos.
– Adolygiad o Y Caeth yn Rhydd gan Dei Tomos

