Bywgraffiad
Ymunodd Alaw â Barddas wedi cyfnod o fod yn gweithio yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru lle bu’n rhan o brosiectau Barddoniaeth Guto’r Glyn a Chwlt y Seintiau yng Nghymru. Fel cymrawd ymchwil yn y Ganolfan yn Aberystwyth, mae gan Alaw brofiad sylweddol o gyhoeddi a pharatoi testunau ar gyfer eu cyhoeddi.