Cydlynydd Barddas
Cyfeiriad
Delfan,
50 Ffordd Brynglas,
Llanbadarn Fawr,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3QR.
Bywgraffiad
Ers pymtheg mlynedd mae Alaw wedi gweithio ym myd y celfyddydau yng Nghymru, gan gynnwys cynrychiolydd gwerthiant Cyngor Llyfrau Cymru, swyddog rhaglennu a marchnata Theatr Felinfach, ac mae ar hyn o bryd yn Gydlynydd Rhaglen Artistig yn Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth, ble mae hi hefyd yn athrawes clocsio.
Yn 2015, golygodd y gyfrol Gyrru Drwy Storom (Y Lolfa) â’r bwriad o leihau stigma a chwalu tabŵ am gyflyrau iechyd meddwl. Ar y cyd â’i swydd yng Nghanolfan y Celfyddydau, mae hi hefyd yn rhedeg ei chwmni trefnu priodasau a digwyddiadau ei hun, Digwyddiadau Calon, ac wedi ennill sawl gwobr yn lleol ac yn genedlaethol am ei gwaith.
Mae’n wyneb cyfarwydd ar raglen poblogaidd S4C, Priodas Pum Mil, gan mai hi yw’r Trefnydd Priodas sy’n ceisio cadw trefn ar y cyflwynwyr, Emma a Trystan! Mae Alaw yn edrych ymlaen at y bennod newydd yn ei bywyd o ymuno â theulu Barddas.
Dyletswyddau
Cyfrifoldeb y cydlynydd yw i weinyddu hyrwyddo a marchnata Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod gan barhau i foderneiddio ei phrosesau drwy gyfrannu’n gyson i’r gymdeithas fywiog hon wrth iddi ymdrechu i gynyddu ei gweithgaredd yn y gymuned o fewn ysgolion ac wrth datblygu adain gyhoeddi newydd i blant a phobol ifanc o dan yr enw ‘Beirdd Bach’.