Swydd gyffrous ac amrywiol sy’n cynnig cyfle i berson trefnus a brwdfrydig chwarae rhan sylweddol yn datblygu’r cyfraniad a wna’r Gymdeithas ym myd barddoniaeth Gymraeg.
Chwiliwn am unigolyn egnïol sy’n meddu ar sgiliau gweinyddol o’r radd flaenaf, ynghyd â meistrolaeth o’r cyfryngau cymdeithasol at ddiben hyrwyddo a marchnata yn greadigol. Byddai’n hynod o fanteisiol petai’r unigolyn yn gyfarwydd â byd barddoniaeth a llenyddiaeth yng Nghymru heddiw, gan amlygu brwdfrydedd tuag at amcanion a gweithgaredd Barddas.
Bydd y dyletswyddau yn cyffwrdd â phob agwedd ar waith Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod.
Cyflog | £29,600 pro rata am 20 awr yr wythnos |
Dyddiad cau | Dydd Mercher, 12 Awst |
Cyfweliadau | Dydd Iau, 20 Awst (trwy Zoom) |
Ymgeisio
Anfonwch lythyr cais a CV at [email protected].
Telerau
Pecyn yn cynnwys:
- Cyflog: £29,600 pro rata am 20 awr yr wythnos
- Cyfraniad cyflogwr at bensiwn o 5%
- Gweithio oriau hyblyg ac o gartref
- Ad-daliad o 45c y filltir am gostau teithio achlysurol
- Darperir cyfrifiadur a thrafodir trefniant ffon
Prif ddyletswyddau
- Cyfrifoldeb am holl waith gweinyddol Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod gan barhau i foderneiddio ein prosesau.
- Paratoi ar gyfer, gweinyddu, mynychu ac adrodd i 3 chyfarfod Pwyllgor Gwaith y flwyddyn (a’r Is-bwyllgor Cyhoeddiadau).
- Gweinyddu gwefan Barddas a chyfrannu’n gyson i’r cyfryngau cymdeithasol.
- Cynorthwyo gyda cheisiadau grant a gweinyddu grantiau.
- Gweinyddu’r drefn aelodaeth a thanysgrifiadau.
- Trefnu digwyddiadau lansio llyfrau a hyrwyddo.
- Cynorthwyo Golygydd Cyhoeddiadau Barddas a Golygydd Cylchgrawn Barddas.
- Gweinyddu prosesau dosbarthu llyfrau.
- Cadw cyfrif manwl a chywir o werthiant llyfrau (trefniadau cadw stoc i’w hadolygu gyda deiliad y swydd).
- Hwyluso gwaith y Gymdeithas wrth iddi ymdrechu i gynyddu ei gweithgaredd yn y gymuned ac mewn ysgolion.
- Gweithio ar stondin Barddas yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
- Ymwneud â threfniadau Gŵyl Gerallt yn flynyddol.
- Unrhyw waith arall addas sy’n hwyluso gwaith y Gymdeithas.
Atebolrwydd
Bydd y Cydlynydd yn atebol i’r Pwyllgor Gwaith, gyda’r Cadeirydd yn rheolwr llinell.