Mae Golygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas yn gyfrifol am y Rhaglen Gyhoeddi gan Gyngor Llyfrau Cymru o 9 llyfr y flwyddyn o leiaf, ac ambell gyfrol arall y bydd galw amdani.
Lleoliad | Gweithio o gartref, ond bydd angen teithio i ddigwyddiadau yma ac acw yng Nghymru yn achlysurol. |
Cyflog | Graddfa gyfatebol i’r NJC rhwng rhicynau 24 a 29 (£29,174 – £33, 486 y flwyddyn, dan adolygiad), pro rata. |
Oriau gwaith | Rhan amser – 24 awr yr wythnos (wythnos lawn 37 awr) i’w gweithio yn ôl dymuniad yr ymgeisydd, drwy gytundeb â’r cyflogwr. |
Cytundeb | Parhaol, yn gyflogedig, yn ddibynnol ar gyflawniad y cyfnod prawf o 6 mis. Profiad a chymwysterau: Darllenwch y disgrifiad swydd am fwy o wybodaeth. |
Sut i wneud cais
Lawrlwythwch fanylion llawn y swydd a chyfarwyddiadau sut i wneud cais.
Yr amser cau ar gyfer derbyn ceisiadau fydd pnawn Mercher, 7 Medi 2022, am 2.00 o’r gloch.
Bwriedir cynnal y cyfweliadau ar ddydd Gwener, 7 Hydref, 2022, drwy gyfrwng Zoom.