“Sa’i’n credu ’mod i’n gant oed,” meddai. “Mae’n hala fi i werthin! Ond wi’n darllen Barddas o glawr i glawr, a wi’n dysgu rhywbeth bob tro. Fe allwn i farw’n hapus pe bawn yn gallu gwneud englyn cywir! Fe wnes i linell pwy noson pan own i wedi blino’n lân: ‘af yn araf i orwedd!’”. …
Yn ôl i’r Dref Wen: datganiad i’r wasg
Ble mae’r Dref Wen? Ble mae Pengwern? Ble mae Rhodwydd Forlas? Dyma rai o’r cwestiynau mae Myrddin ap Dafydd yn mynd ati i’w hateb yn ei gyfrol gyntaf i Gyhoeddiadau Barddas sy’n edrych ar y canu englynol cynnar yng nghalon yr Hen Bowys yn nhalgylch yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Ac yntau’n awdur toreithiog i blant …
Y Gân Olaf – datganiad i’r Wasg
Fel rhan o Gynhadledd Flynyddol y Gymdeithas, ‘Gwyl Gerallt’ a gynhelir yn Galeri Caernarfon, bydd Barddas yn lansio Y Gân Olaf, cyfrol ddiwethaf o gerddi Gerallt Lloyd Owen. “Profiad chwerw-felys i Barddas yw gweld cyhoeddi Y Gân Olaf,” yn ôl y Prifardd Dafydd John Pritchard, Cadeirydd y Gymdeithas Gerdd Dafod. “Y mae llawer yng Nghymru yn hawlio …
John Glyn Jones
Gofid o’r mwyaf i holl aelodau’r Gymdeithas Gerdd Dafod oedd clywed y newyddion trist am farwolaeth annhymig John Glyn Jones, trysorydd di-flino’r Gymdeithas ac un o wir gymwynaswyr y Gymraeg.
Triawd Barddas ar y Brig
Am yr ail flwyddyn o’r bron, mae Cyhoeddiadau Barddas yn dathlu bod tri o’i llyfrau wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Heddiw, cyhoeddoddd Llenyddiaeth Cymru bod cyfrolau barddoniaeth Llyr Gwyn Lewis (Storm ar Wyneb yr Haul) a Meic Stephens (Wilia) ar y Rhestr Fer yn y categori Barddoniaeth ac astudiaeth Kate Crockett o fywyd a …
Gwobr Cyfraniad Oes i Dafydd Islwyn
Dafydd Islwyn, ysgrifennydd y Gymdeithas Gerdd Dafod, yn derbyn Gwobr Cyfraniad Oes Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru.
Datganiad i’r Wasg: Ni Bia’r Awyr – Guto Dafydd
Mae cyfrol gyntaf o gerddi’r Prifardd Guto Dafydd, a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr eleni, newydd ymddangos o’r wasg gan Gyhoeddiadau Barddas.
Christine James yn dod i’r brig
Wrth gyhoeddi eu dyfarniad, dyma ddywedodd y panel beirniaid am Rhwng y Llinellau: “Yn ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, cyflwynodd Christine James inni gasgliad chwareus a di-ildio o gerddi mentrus iawn.”
Barddas ar y Brig
Mae Cyhoeddiadau Barddas yn dathlu bod tri o’i llyfrau wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2014.
Barddas ar y Brig
Bu Noson Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn a gynhaliwyd yng Nghaerdydd nos Iau, Gorffennaf 18, yn un i’w chofio i Gyhoeddiadau Barddas wrth iddynt gipio dwy wobr allweddol, sef Prif Wobr y Categori Barddoniaeth a Gwobr Barn y Bobl.
Llwyddiant i Lyfrau Barddas
Mae Cyhoeddiadau Barddas yn dathlu bod dau o’u beirdd, Aneirin Karadog a Llion Jones wedi cyrraedd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn eleni.
Karen a Barddas yn Dathlu’r Dwbl
Mae Cyhoeddiadau Barddas yn dathlu llwyddiant nodedig ar ôl i un o gyfrolau’r gymdeithas gipio dwy wobr yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yr wythnos diwethaf.