
Casgliad amrywiol o gerddi gan dadau ac am dadau – o’r dwys i'r digrif! Cynhwysir lluniau lliw bendigedig gan yr arlunydd Matt Joyce.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 9.95
Disgrifiad
Casgliad amrywiol o gerddi gan dadau ac am dadau – o’r dwys i’r digrif! Cynhwysir lluniau lliw bendigedig gan yr arlunydd Matt Joyce.
Lansiad
Noson yng nghwmni Mari Lovgreen a Rhys Iorwerth. Gyda siop Palas Print.
Adolygiad
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Dyma gyfrol fechan dwt, clawr caled sy’n cynnwys casgliad gwerthfawr o gerddi hen a newydd gan dros chwe deg o feirdd am dadau, neu am y profiad o fod yn dad neu’n lystad. I gyd-fynd â’r farddoniaeth, ceir dehongliadau syml ond effeithiol o sawl cerdd yn narluniau Matt Joyce. Golygwyd y gyfrol gan y Prifardd Rhys Iorwerth, ac yn ei ragair dywed i’r orchwyl o ddethol y cerddi fod yn fraint ac yn agoriad llygad. Er nad oedd yn sioc, sylweddolodd mai eithriad oedd y beirdd nad oedd wedi ysgrifennu am eu tadau, neu am y profiad o fod yn dad.
Ochr yn ochr â cherddi gan dadau o’r oes a fu, fel Lewys Glyn Cothi a Goronwy Ddu, ceir cerddi mwy diweddar gan feirdd megis Dyfnallt, Dic Jones a Gerallt Lloyd Owen. Ond gweithiau’n beirdd cyfoes a chyfredol yw’r mwyafrif o’r cerddi, beirdd megis Twm Morys, Myrddin ap Dafydd, Llŷr Gwyn Lewis a Guto Dafydd i enwi ond rhai. Er i’r clawr ddatgan mai ‘Cerddi gan Dadau’ sydd yn y gyfrol, nid dynion yn unig a gyfranodd i’r gyfrol hon. Ceir ynddi gerddi am dadau gan dros ddeg o ferched megis Dilys Cadwaladr, Gwyneth Lewis, Grug Muse, Mari George a Casia Wiliam.
Mae yma rychwant eang o gerddi o ran arddull a chywair, cerddi sy’n llwyddo i drafod ac i gyfleu llawenydd a thristwch, y gorfoleddus a’r dirdynnol. Yng nghywydd ‘Mis Bach’ Iwan Llwyd i enedigaeth ei ferch Rhiannon ceir y profiad dyrchafedig hwnnw o ddod yn dad, ac yn englyn Gethin Wynn Davies ‘I Lewys Dafydd’, lle bu i flwyddyn anobeithiol 2020 ‘orffen yn hollol berffaith.’ Wrth i’r baban wylo’n hallt, daw’r profiad o nosweithiau di-gwsg yn fyw yn englyn ‘Tri o’r gloch y bore’ gan Ceri Wyn Jones. Gyda theimladau cymysg mae’n nodi, ‘fe’th ddiawliaf a’th addoli’.
Gyda threigl amser, daw rhieni i sylweddoli fod yn rhaid i’w plant dorri eu cwysi eu hunain, ac yng nghywydd gwych ‘Diogelwch’ Tegwyn P. Jones, gwêl y bardd ei fab ei hun ar dractor ar lechwedd peryglus a serth:
‘Refio oedd ar ochr y Foel
â’i og ar ongl anhygoel’.
Bu’r bardd ei hun yn codi braw ar ei dad yntau ar yr un llechwedd flynyddoedd ynghynt, ac wrth weld ei fab ei hun yn yr union le mae’n dweud:
‘O’r un fan t’ranaf innau
Eiriau tad, rhegi’r to iau,
Am y llethr na wêl trem llanc,
A’r rhiw na wêl yr ieuanc.’
Nid oes modd i’r rhan fwyaf ohonom ddianc rhag yr arswyd o golli tad, a llwydda cerddi megis ‘Ffarwelio?’ gan Dylan Iorwerth a ‘Syd’ gan Geraint Lövgreen i goffáu eu tadau’n dyner ac annwyl yn eu harddull eu hunain. Yn yr un modd, llwydda englynion celfydd ‘Encilio’ Peredur Lynch i dalu teyrnged deimladwy i’w dad yntau.
Yng nghywydd ‘Marwnad Siôn y Glyn’ gan Lewys Glyn Cothi cawn brofi poen erchyll tad o golli plentyn, a deil y cwpled agoriadol i’n cyffwrdd bron i chwe canrif yn ddiweddarach:
‘Un mab oedd degan i mi;
Dwynwen, gwae’i dad o’i eni.’
Mae’r gyfrol yn cloi gydag englyn arbennig gan Mererid Hopwood i’w thad sy’n gorffen gyda’r cwpled:
‘Un gair, yn floedd o gariad,
Yn dweud dim ond enw Dad.’
Dyma gyfrol sy’n trafod profiadau sy’n gyffredin i’r rhan fwyaf ohonom. Cyfrol sy’n dathlu cyfraniad a dylanwad tadau ar ein bywydau ac ar fywydau eraill, a thrwy’r llon a’r lleddf, mae modd profi ynddi rai o emosiynau oesol a dwysaf cylch bywyd.
Iwan Bryn James