Cywydd gan Geraint Roberts sy’n rhan o’r gyfrol Desg Lydan, sy’n cael ei chyhoeddi yn y gwanwyn.
Ar y lôn hir eleni,
mae deilen, un hen yw hi,
yn gragen o wythiennau
ac ynddi y cochni’n cau;
ei bioleg mor fregus,
yn frau, ond eto ar frys
trwy Ragfyr yr awyr rydd
a’i darmac a’r holl stormydd;
a daw rhyw wynt yn ei dro
yn gadarn i’w hergydio,
oedi, ac yna’n sydyn,
troi a wna, troi arni’i hun,
a lliw hon yn bell o’i haf –
olion y ddeilen olaf.
Awdur
Geraint Roberts
Ganwyd Geraint Roberts yn Rhydgaled, ger Aberystwyth, ac erbyn hyn mae’n byw yng Nghwmffrwd, Caerfyrddin. Bu’n dysgu mewn sawl ysgol cyn dod yn bennaeth Ysgol y Strade, Llanelli. Ef yw un o syflaenwyr Ysgol Farddol Caerfyrddin – gyda Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones. Desg Lydan yw ei gyfrol gyntaf o gerddi.