Englyn gan Geraint Roberts sy’n rhan o’r gyfrol Desg Lydan, sy’n cael ei chyhoeddi yn y gwanwyn.
A’r ddôr yn gilagored – un yn llai
at ein llan sy’n cerdded,
un â’r iaith fu’n rhan o’i gred,
un yn llai o’r cyn lleied.
Awdur
Geraint Roberts
Ganwyd Geraint Roberts yn Rhydgaled, ger Aberystwyth, ac erbyn hyn mae’n byw yng Nghwmffrwd, Caerfyrddin. Bu’n dysgu mewn sawl ysgol cyn dod yn bennaeth Ysgol y Strade, Llanelli. Ef yw un o syflaenwyr Ysgol Farddol Caerfyrddin – gyda Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones. Desg Lydan yw ei gyfrol gyntaf o gerddi.