Dyma gerddi newydd wedi eu cyhoeddi yn Barddas 341 gan Lywydd Anrhydeddus y Gymdeithas Gerdd Dafod – Dafydd Islwyn.
Olion
(wrth gofio’r Cilie)
Mae’r bae yn benisel
islaw Y Foel
a’r hirlwm yn drwm
ar y drain
ger Parc Mawr
am nad oes bardd
ym mharlwr bach y Cilie.
Yma
ar aelwyd y cywydd
a chrud yr englyn
bu Mosi Worrell o amser
yn chwalu, malu a thaflu
offer y Bois.
Mae ôl ei ymweliad
ar gilbost iet y clôs
a’r chwyn fel sillafau
a gollwyd o lwythi
cynhaeaf y Cilie.
Aneurin
(Y darlun ‘Mawr a Bach’)
Gwelaf fy nhaid,
y dyn caled,
yn dwyn i go’
â’i gyd-was John Jones Llwyn Ysgo
y tymor a fwriodd y ddau
yn Nhai Hirion.
Clywaf
idiom am y caeau a’r cowt
yn britho eu sgwrs.
Mynnaf iddo ddal
osgo wledig
pentymor y diwylliant
bôn braich
o drin y tir.
Rhymni
Idris
yma ar ddaear dy droedle
y gwelaist y glöwr
yn trin y pridd
yn dyner.
Fe’i gwelaist
yn llonyddwch ei randir
a’i ddwylo yn plannu
ei datws cynnar.
Fe welaist
y pridd ac yntau
yn cydweithio
fel dau gymar
yn cadw llygaid
ar gwpwrdd bwyd ei deulu.
Ennill Tir
Dyddiau a fu
gwelwyd y dalaith
fel llys Y Pethe
wedi mynd â’i ben iddo.
Derbyniwyd yn fodlon
mai’r Gymraeg oedd iaith
yr hen bobl
a fynnai mai Pantycelyn
a’i cadwodd ar ei llwybr cul.
Machludodd y dyddiau
‘mieri lle bu mawredd’
a chydag amser yn cerdded
tua’r wawr
ni reibiwyd gwreiddiau iaith
yn y tir du.
Awdur
Dafydd Islwyn
Dafydd Islwyn yw Llywydd Anrhydeddus Barddas. Yn ogystal â bod yn fardd, mae'n gymwynasydd mawr i'r Gymdeithas Gerdd Dafod gan dreulio blynyddoedd fel ei Hysgrifennydd diflino. Derbyniodd Wobr Cyfraniad Oes Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru 2015.